Lleoliad:
Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Tachwedd 2019
Amser: 09.17 - 16.20
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
|
Ysgrifenyddiaeth: |
Lleu Williams (Clerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) |
Tystion: |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2 Gan groesawu Lleu Williams, Clerc y Bwrdd, yn ôl, mynegodd y Cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd eu dymuniadau gorau iddo.
1.3 Cyflwynodd y Cadeirydd y swyddogion a ganlyn i bawb yn y cyfarfod: Craig Griffiths, un o gynghorwyr cyfreithiol Comisiwn y Cynulliad, a Dean Beard, aelod o’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau.
1.4 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 19 Medi, yn amodol ar fân newid i baragraff 5.2 i’w wneud yn fwy darllenadwy.
1.5 Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn y Cynulliad.
1.6 Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu'r Pwyllgor ar Ddiwygio'r Cynulliad.
1.7 Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y broses o benodi Douglas Bain yn Gomisiynydd Safonau Dros Dro, gan gydnabod y penodiad hwnnw.
1.8 Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am yr argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder, sef 'Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru'.
1.9 Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am eiriad y Weithdrefn Gwyno a Disgyblu mewn perthynas ag apeliadau yn dilyn ymchwiliadau annibynnol, ynghyd â chyngor gan ACAS. Cytunodd y Bwrdd y byddai’r ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â’r Grwpiau Cynrychiolwyr mewn perthynas â’r newidiadau arfaethedig i eiriad y weithdrefn, gyda'r bwriad o wneud gwaith ymgynghori pellach fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ar gyfer y Chweched Cynulliad yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
1.10 Gwnaeth y Bwrdd drafod a chytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn.
Camau gweithredu:
- Yr ysgrifenyddiaeth i newid a chyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi.
- Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod gyda’r Grwpiau Cynrychiolwyr cyn y cyfarfod ym mis Ionawr.
- Yr ysgrifenyddiaeth i wneud trefniadau ar gyfer cyfarfod ychwanegol o’r Bwrdd ym mis Chwefror 2020.
2.1 Trafododd y Bwrdd adolygiad chwe mis o hyblygrwydd y lwfansau staff yn dilyn y broses o roi newidiadau ar waith, gan gynnwys dileu’r cap 111 awr ar gyflogi staff a gyflogir yn barhaol, cyllidebu costau cyflogau ar sail costau gwirioneddol, a newidiadau i'r opsiynau i drosglwyddo cyllid sydd ar gael i'r Aelodau.
2.2 Cytunodd y Bwrdd y byddai’n cynnal adolygiad pellach ym mis Ebrill 2020 er mwyn gwneud gwaith monitro pellach ar natur effaith y newidiadau.
2.3 Cytunodd y Bwrdd y byddai’n newid y geiriad ar drosglwyddiadau yn y Penderfyniad er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn fwy clir.
· 3.1 Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i'w ymgynghoriad.
· 3.2 Mewn perthynas â Chynnig 1, cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu'r cynnig ar gyfer y Chweched Cynulliad a gweddill y Pumed Cynulliad, a hynny er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gyfyngiadau ar allu Aelodau i recriwtio staff ar gontractau tymor penodol sy'n hwy na chwe mis ac sy’n para hyd at 18 mis, yn amodol ar gynnal proses recriwtio deg ac agored.
· 3.3 Ymhellach i’r cam o weithredu Cynnig 1 ar gyfer y Chweched Cynulliad, cytunodd y Bwrdd hefyd y dylid alinio contractau tymor penodol ar gyfer absenoldeb mamolaeth â darpariaethau statudol ar gyfer absenoldeb mamolaeth, a hynny am gyfnod o hyd at 12 mis.
· 3.4 O ran Cynigion 2 a 6, sy'n ymwneud â chaniatáu i Aelod neu Arweinydd Plaid bennu cyflog cychwynnol a chodiadau cyflog cynyddrannol aelod staff yn dilyn ei gyfnod prawf, cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu’r trefniant hwn ar gyfer y Chweched Cynulliad. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n argymell bod y Bwrdd nesaf yn adolygu'r broses hon 12 mis ar ôl ei gweithredu.
· 3.5 Cytunodd y Bwrdd â'r ymatebion a ddaeth i law a oedd yn galw am broses ymgynghori mewn perthynas â’r canllawiau sy'n ymwneud â'r meini prawf ar gyfer cyflog cychwynnol, a chytunodd y byddai’r ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â’r Grwpiau Cynrychiolwyr wrth ddatblygu'r canllawiau.
· 3.6 Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 3, 7 ac 8, a chytunodd hefyd, yn unol â’r hyn sydd wedi’i nodi yn y Cynigion, y byddai amgylchiadau lle byddai aelodau o staff cymorth yn cael eu diswyddo yn rhai annisgwyl, a dylai’r sefyllfa honno felly fod yn destun codiad o 100 y cant.
· 3.7 Wrth drafod yr ymatebion, cytunodd y Bwrdd hefyd y dylai staff sy’n cael eu diswyddo o ganlyniad i afiechyd fod yn destun codiad o 100 y cant, oherwydd y gallai amgylchiadau o’r fath hefyd fod yn annisgwyl.
· 3.8 Fodd bynnag, ni chytunodd y Bwrdd i gymhwyso codiad o 100 y cant i aelodau staff a gafodd eu diswyddo yn sgil penderfyniad blaenorol y Bwrdd ym mis Ebrill 2019 ynghylch cyflogi aelodau o'r teulu, gad fod yr amgylchiadau hynny yn rhai disgwyliedig.
· 3.9 Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 4 a 9, sy’n ymwneud â thalu cyflog sy'n cyfateb i isafswm band tri mewn perthynas â lleoliadau addysg uwch sy’n para’n hwy na phedair wythnos. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n datblygu canllawiau ar gyfer interniaethau. Cred y Bwrdd y byddai'r dull hwn yn cynorthwyo’r broses o gyflawni amcanion cydraddoldeb, tryloywder a thegwch.
· 3.10 Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 3 a 10, sy’n ymwneud â chyflwyno gweithdrefn ar gyfer lleoliadau gwirfoddol mewn swyddfeydd Aelodau a Grŵp.
· 3.11 Mewn perthynas â Rhan dau o'r ymgynghoriad, yn canolbwyntio ar gynigion i ddiwygio Rheolau Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad, cytunodd y Bwrdd y byddai’n rhoi'r newidiadau hynny ar waith. Bydd y Tîm Pensiynau yn cyfarwyddo Eversheds, ar ran y Bwrdd, i wneud y newidiadau angenrheidiol i Reolau'r Cynllun Pensiwn.
· 3.12 Bu'r Bwrdd hefyd yn trafod materion eraill a godwyd yn yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y rhan hon o'r adolygiad.
· 3.13 Trafododd y Bwrdd faterion a godwyd mewn nifer o ymatebion yn ymwneud â lefelau cyflog staff cymorth. Mae’r Bwrdd o'r farn o hyd nad oes tystiolaeth ychwanegol i'r Bwrdd ei thrafod ar hyn o bryd, yn dilyn Adolygiad diweddar y Bwrdd o Gymorth Staffio, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2019. Nododd y Bwrdd y ffigur ASHE diweddaraf, sef 4.4 y cant, a fyddai'n arwain at gynnydd mewn lefelau cyflog staff cymorth ar gyfer 2020-21.
· 3.14 Yn ogystal, nododd y Bwrdd fater a godwyd mewn nifer o ymatebion, sef y cynllun pensiwn ar gyfer staff cymorth, a chytunodd y byddai’n trafod papur mewn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn deall manylion y cynllun yn well.
· 3.15 Nododd y Bwrdd hefyd fater a godwyd mewn un ymateb, sef mater yn ymwneud ag absenoldeb arbennig ar gyfer milwyr wrth gefn. Cytunodd y Bwrdd y byddai’n trafod y posibilrwydd o gyflwyno polisi absenoldeb arbennig ar gyfer milwyr wrth gefn a rolau eraill y gall staff ymgymryd â hwy er mwyn cyfrannu at gymdeithas ddinesig. Bydd yn ymgynghori ar gynigion fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ar gyfer y Chweched Cynulliad ym mis Ionawr.
3.16 Nododd y Bwrdd y materion a godwyd mewn un ymateb parthed contractau Staff Grŵp. Roedd y Bwrdd o'r farn o hyd y byddai angen trafod y mater hwn yn y Chweched Cynulliad yng nghyd-destun diwygio pellach mewn perthynas â’r Cynulliad.
· Cam gweithredu:
- Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi’r llythyr yn datgan penderfyniad y Bwrdd cyn gynted â phosibl.
4.1 Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i'w ymgynghoriad ar ran tri o'r adolygiad o'r Penderfyniad.
4.2 Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynnig 1 i gadw’r trefniadau cyfredol ar gyfer tâl Aelodau, ac i gadw’r cyswllt rhwng cyflogau Aelodau a mynegai ASHE.
4.3 Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynnig 2 i wneud darpariaeth ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol y Darpar Gwnsler Cyffredinol.
4.4 Wrth drafod y materion uchod yng nghyd-destun sicrhau cysondeb o fewn y Penderfyniad, cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar gynigion i dalu Darpar Brif Weinidog. Felly, cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar y ddarpariaeth dan sylw fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ym mis Ionawr.
4.5 Nododd y Bwrdd y gefnogaeth a fynegwyd yn yr holl ymatebion a gafwyd i Gynnig 3, sef datblygu pennod newydd yn y Penderfyniad ar ddarparu cymorth i Aelodau sydd ag anableddau. Cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar destun penodol fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ym mis Ionawr.
4.6 Cytunodd y Bwrdd mewn egwyddor i ddatblygu Cynnig 4, gan ystyried darparu cymorth i Aelodau â chyfrifoldebau gofal plant a gofalu. Cytunodd y byddai’n ymgynghori ar gynigion fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ym mis Ionawr.
4.7 Wrth gytuno ar yr uchod, cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n gweithredu cynnig 5, sef cyhoeddi costau ar sail ddienw a chyfanredol.
4.8 Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n datblygu darpariaeth mewn perthynas â Chynnig 6, sef darparu cymorth i Aelodau sy'n cymryd cyfnod o absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir. Felly, cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar y darpariaethau manwl fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ym mis Ionawr.
4.9 Wrth drafod ymateb ynghylch darparu cymorth i Aelodau dros 65 oed, penderfynodd y Bwrdd y byddai'r newidiadau a'r ychwanegiadau a wneir i'r Penderfyniad o ganlyniad i'r rhan hon o'r adolygiad yn ymdrin ag anghenion Aelodau sy’n 65 oed neu’n hŷn.
Cam gweithredu:
- Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi’r llythyr yn datgan penderfyniad y Bwrdd cyn gynted â phosibl.
5.1 Cynhaliodd y Bwrdd ei drafodaeth gychwynnol ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad yn ei gyfanrwydd, ynghyd â thrafodaeth ar y materion dros ben i’w hystyried fel rhan o'r broses ymgynghori derfynol ym mis Ionawr.
5.2 Cytunodd y Bwrdd y byddai’n trafod y Penderfyniad fesul llinell, fel y'i diwygiwyd, cyn cyhoeddi’r ymgynghoriad ddiwedd mis Ionawr.
6.1 Trafododd y Bwrdd nifer o faterion yn ymwneud â'i Benderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sef 2020-21.
6.2 Trafododd y Bwrdd gyfradd y lwfans costau swyddfa ac a yw’n parhau i fod yn briodol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2020-201). Trafododd y Bwrdd nifer o ffactorau, gan gynnwys faint y mae Aelodau unigol yn ei wario ar gostau swyddfa, yn ogystal â mesurau chwyddiant.
6.3 Yn dilyn dadansoddiad o'r wybodaeth a oedd ar gael, cytunodd y Bwrdd fod gwariant Aelodau ar y lwfans yn dangos bod y lwfans cyfredol yn ddigonol ar gyfer eu hanghenion. Yn sgil hynny, penderfynodd y Bwrdd gynnal y lwfansau o £18,260 a £4,912 ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
6.4 Trafododd y Bwrdd y lwfans Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, gan ymdrin â nifer o ffactorau cysylltiedig, gan gynnwys faint y mae Aelodau’n ei wario ar lety, costau'r farchnad rentu leol yng Nghaerdydd, a mesurau chwyddiant.
6.5 Cytunodd y Bwrdd y dylid cynyddu lwfans yr ardal allanol yn unol â chyfradd y CPI o fis Medi 2019, sef 1.7 y cant. Byddai gwneud hyn yn cynyddu’r lwfans o £795 y mis i £810 y mis. Byddai hyn yn rhoi cyfanswm o £9,710 y flwyddyn.
6.6 Hefyd, trafododd y Bwrdd a ddylid newid y Lwfans Atgyweirio Hanfodol a’r Lwfans Gofalwr. Penderfynodd y Bwrdd fod y Lwfans Atgyweirio Hanfodol a’r Lwfans Gofalwr yn ddigonol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
6.7 Mae cyflogau’r Aelodau (a deiliaid swyddi ychwanegol), yn ogystal â chyflogau eu staff cymorth, yn cael eu haddasu'n awtomatig bob mis Ebrill yn unol â’r newid yn enillion canolrif gros yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) ar gyfer swyddi cyflogeion amser llawn yng Nghymru. Nododd y Bwrdd mai'r newid eleni yw 4.4 y cant. Felly, dyma’r swm a ddefnyddir i addasu cyflogau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Bydd manylion am y cyflogau newydd yn cael eu cyhoeddi yn y Penderfyniad ar gyfer 2020-21.
6.8 Yn flaenorol, addaswyd y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol bob blwyddyn yn ôl yr un mynegai ag a ddefnyddir ar gyfer cyflogau’r Aelodau a’u staff cymorth. Fodd bynnag, ni ddefnyddir y lwfans i dalu cyflogau staff cymorth grŵp yn unig; fe'i defnyddir hefyd i dalu costau staffio eraill, fel teithio, yn ogystal ag offer swyddfa a deunyddiau. Mae’r Bwrdd yn ymwybodol o gyfanswm cost gyffredinol y lwfans hwn, sy’n parhau i gynyddu. Yn sgil hynny, cytunodd y byddai’n defnyddio dull arall i addasu cyfanswm y lwfans ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
6.9 Gwnaeth y Bwrdd gynnig bod cyfanswm yr hyn sy’n cael ei wario ar gyflogau (sef tua 80.2 y cant o gyfanswm y lwfans yn 2018-19) yn cynyddu 4.4 y cant, sef cyfradd mynegai ASHE, a bod gweddill y lwfans yn cael ei addasu yn ôl cyfradd y CPI ar gyfer mis Medi 2019, sef 1.7 y cant. Mae'r Bwrdd o'r farn bod y newid hwn yn un teg a fydd yn caniatáu i staff cymorth gael yr un codiad cyflog â'u cydweithwyr, yn ogystal â sicrhau bod costau eraill yn cyfateb i gyfradd chwyddiant. Mae'r Bwrdd o’r farn bod y cynnig hwn yn nes at y ffordd y mae Pleidiau Gwleidyddol ac Aelodau Annibynnol yn defnyddio’r lwfans mewn gwirionedd, ac y bydd y codiadau yn y lwfansau, fel y'u dosbarthwyd, yn rhoi gwell gwerth am arian.
6.10 Trafododd y Bwrdd faterion yn ymwneud â newid enw’r Cynulliad a'r effaith ar gyllidebau a gwariant Aelodau. Nododd y Bwrdd Femorandwm Esboniadol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sy'n rhagdybio y byddai'r Bwrdd Taliadau yn cynghori'r Aelodau i beidio â gwneud hawliadau sy'n gysylltiedig â newid enw’r sefydliad ar faneri cyn etholiad 2021.
6.11 Trafododd y Bwrdd y rhagdybiaeth hon a chytunwyd ei bod yn rhesymol i’r Aelodau beidio â cheisio hawlio unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â newid enw'r sefydliad yn ôl cyn etholiad nesaf y Cynulliad, a gynhelir ym mis Mai 2021. Mae hyn yn cynnwys costau ar gyfer eitemau fel arwyddion, baneri, parthau gwe a gwefannau.
6.12 Yn dilyn etholiad 2021, bydd gan Aelodau newydd lwfans o hyd at £5,000 i sefydlu swyddfa, ac ni fydd angen cyllid penodol arnynt i gynnwys yr enw newydd. Bydd y Bwrdd Taliadau nesaf yn penderfynu ar sut y caiff Aelodau sy'n dychwelyd eu had-dalu am unrhyw gostau perthnasol ar ôl i'r ddeddfwriaeth gael ei gweithredu.
6.13 Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar y cynigion drwy'r llythyr diweddaru ar gyfer y cyfarfod ym mis Tachwedd, gyda'r bwriad o drafod ymatebion ym mis Chwefror 2020.
Cam gweithredu:
- Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi'r llythyr diweddaru yn dilyn y cyfarfod ym mis Tachwedd, gan gynnwys y cynigion ar gyfer yr adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad, cyn gynted â phosibl.